Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (165)v5 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
Cwestiwn Brys Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y bwriad i gael uned ddamweiniau wedi’i harwain gan feddygon yn Ysbyty Tywysog Philip Llanelli yn sgîl ei lythyr at gadeirydd Plaid Lafur Llanelli dyddiedig 21 Tachwedd 2013? |
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
Cynnig i ethol Aelod i Bwyllgor NDM5375 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jocelyn Davies (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Lindsay Whittle (Plaid Cymru).
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Ymateb Llawn Llywodraeth y DU i Adroddiad Comisiwn Silk ar Ddiwygio Ariannol (30 munud) Dogfen Ategol
Grymuso a Chyfrifoldeb: datganoli pwerau ariannol i Gymru
(Saesneg yn unig) |
4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad Hill: Darparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol (30 munud) Dogfen Ategol Ymgynghoriad – Darparu gwasanaethau addysg yng Nghymru yn y dyfodol
|
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Cynllun gweithredu strategol morol a physgodfeydd (30 munud)
|
6 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Y cynnydd o ran cyflwyno Strategaeth Yr Hawl i fod yn Ddiogel (30 munud) Dogfennau Ategol Y Strategaeth ar Hawl i fod yn Ddiogel a Chynllun Gweithredu |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân |
7 Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (15 munud) NDM5364 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013.
Dogfennau Ategol Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 Memorandwm Esboniadol (Saesneg un unig) Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Adroddiad Ymatebion y Llywodraeth i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwri
|
8 Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (15 munud) NDM5365 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013.
Dogfennau Ategol Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Adroddiad
|
9 Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) 2013 (15 munud) NDM5366 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013.
Dogfennau Ategol Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân |
10 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Gofal (15 munud) NDM5247 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gofal, sy’n ymwneud â threfniadau cyfatebol y DU ar gyfer lleoli oedolion ar draws ffiniau, trefniadau i sicrhau parhad yn y gofal i oedolion yn achos methiant gan y darparwr ac i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gydweithredu â’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Gorffennaf 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i: Bill documents — Care Bill [HL] 2013-14 — UK Parliament (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig
|
11 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Gofal (15 munud) NDM5331 Gwenda Thomas (Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM5247, y darpariaethau pellach hynny yn y Bil Gofal sy’n ymwneud â threfniadau cyfatebol y DU ar gyfer lleoliadau trawsffiniol oedolion ac ôl-ofal iechyd meddwl ar gyfer pobl, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i: Bill documents – Care Bill [HL] 2013-14 – UK Parliament (Saesneg un unig)
Dogfennau Ategol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
|
12 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â'r eithriad ASBO (15 munud)
NDM5342 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU wneud darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona, i ddiwygio’r eithriad ynghylch gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol ym mharagraff 12, Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i: Bill documents – Anti-social Behaviour, Crime and Policing Bill [HC] 2013-14 – UK Parliament (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
|
13 Dadl: Y manteision i Gymru i'r DU barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd (60 munud) NDM5367 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod y manteision i Gymru pe bai’r Deyrnas Unedig yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod bod angen ailnegodi ein perthynas bresennol â’r UE fel y gall Cymru a'r DU fanteisio ar Undeb Ewropeaidd sy’n canolbwyntio'n fwy ar faterion economaidd.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn nodi bod 160,000 o swyddi Cymru yn dibynnu ar y DU yn aros yn aelod o’r UE; bod Cymru’n elwa o £144 miliwn y flwyddyn o fod yn aelod o'r UE; a bod dros 10,000 o gwmnïau yng Nghymru yn masnachu gyda gwledydd eraill yn yr UE bob blwyddyn, sy'n dangos pwysigrwydd cael mynediad i'r farchnad sengl a threfniadau masnach rydd yr UE gyda thrydydd partïon ar gyfer swyddi a'r economi yng Nghymru.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn croesawu rôl yr UE yn diogelu ein hamgylchedd fel arweinydd byd wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a llygredd trawsffiniol, a phwysigrwydd y cydymrwymiadau allweddol yn nhargedau 20-20-20 i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau nwyon ty gwydr a chynyddu’r gyfran o’r ynni a ddefnyddir yn yr UE sy’n cael ei chynhyrchu o adnoddau adnewyddadwy.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn croesawu cydweithrediad Cymru ag Europol ac Eurojust, a'i gallu i ddefnyddio'r Warant Arestio Ewropeaidd fel arf, i ddiogelu dinasyddion Cymru rhag troseddau.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar ddiwedd y cynnig: sy’n cynnwys gwneud Cymru yn wlad fwy llewyrchus, mwy cynaliadwy a mwy diogel.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu, os bydd refferendwm yn cael ei gynnal ynghylch a ddylai’r DU aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, y dylai canlyniad Cymru gyfan gael ei gofnodi ar wahân.
|
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 27 Tachwedd 2013